Mae ein cymuned yn seiliedig ar yr egwyddor bod gan bob preswylydd a dysgwr hawl i gael gofal ac addysg o’r ansawdd gorau. Mae’r egwyddor hon wrth wraidd ein cenhadaeth i ddarparu gofal ac addysg o'r safon uchaf posibl i’n preswylwyr a’n dysgwyr – bob amser ac ym mhobman.
Wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu ein Hanner Canmlwyddiant ym mis Mehefin 2025, rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar y pethau rhyfeddol rydyn ni wedi’u cyflawni fel elusen dros y 50 mlynedd diwethaf.
Ein bwriad yw datblygu enw da’r elusen ymhellach, sicrhau llwyfan cyllido hyblyg a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a datblygu gwasanaethau newydd a gaiff eu darparu i’r un safon uchel ag a gaiff ein preswylwyr a’n dysgwyr heddiw.
I ddysgu mwy am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, darllenwch ein dogfen cynllun strategol, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech wybod mwy.